Mae hanes tim enwog Bargod Rangers yn mynd nol crin dipyn . Cafodd ei sefydlu yn 1897, ac maen bwysig bod yna chwaraewyr brwdfrydig ar gael I sicrhau y dyfodol. Peth da yw ennyn diddordeb yn ifanc iawn.
Y bwraid eleni unwaith eto yw cael timau o dan 9 oed, 11eg oed, 13eg oed, 15eg oed, ac hynny yn ogystal ir tim hyn.
Y tymor diwethaf bu’r tim o dan 11eg yn dra llwyddiannus. Bu iddynt ennill Cystadleuaeth Agored Castell Newydd Emlyn, Cystadleuaeth Pump Bob Ochr Cynghrair De Ceredigion, a dod yn ail yng Nghystadleuaeth Agored Llanybydder. Ennillasant hefyd un deg saith or ugain gem a chwaraewyd yn ystod y tymor.
Da iawn nhw .
Bwriad y tymor nesaf yw adeiladu ar llwyddiant anrhydeddus llynnedd drwy gael rhagor o chwaraewyr o bob oedran I ymuno ar garfan.
Bydd yna groeso I bob un sy’n dangos diddordeb.
I’r timau ieuenctyd bydd yna groeso mawr I bob un sy’n dangos diddordeb, Os bydd I chi droi I fyny I’r ymarferion, byddwch yn siwr o gael hwyl a sbri, ac yn siwr o ddatblygu sgiliau pel droed. Byddwch hefyd yn cadw’n heini a dysgu I fod yn rhan o dim. Byddwch yn siwr cael chwarae mewn gem bob Dydd Sadwrn yn ystod y tymor
Does dim I’w golli.
Bydd ymarfer y ieuenctyd yn dechrau ar gae Parc Puw Drefach Felindre ar y 3ydd o Fedi rhwng 5 a 6 ac wedyn bob Nos Fercher hyd at hanner tymor yr Hydref, ac eto pan a’r dydd yn fyr, ar “Astroturf” Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, eto yr un dydd ac amser.
Y bwriad hir-dymor yw y bydd y plant yma, un diwrnod, yn aelodau disglair o dim enwog Bargod Rangers.
Maer tim hyn wedi dechrau ymarfer yn barod ac wedi chwarae rhai gemau I baratoi am y tymor sydd I ddod. Bydd ymarfer ar Barc Puw bob nos Fercher am 6 yh.
Ydy, mae hanes Y Bargod Rangers yn mynd nol yn ddwfn yng nghylch Drefach Felindre ac yn wir yn hanes Cynghrair Pel Droed De Ceredigion.
Dangos diddordeb?
Siwr iawn
Ir ieunenctid cysylltwch a Stephen Jones, Garth, Felindre, FFon 01559 371634
I’r tim hyn cysylltwch a’r Rheolwr Joe Prentice 0777 350 3197 neu’r
Bargod Rangers Football Club has a rich and colourful history that can be traced back to its origin in 1897. It is important that young and enthusiastic players from the area are found to ensure a bright future. The intention next season is to once again field junior teams at under 9’s, 11’s’ 13’s, and 15’s as well as the senior side to represent the club.
Last season the under 11’s led the way being Tournament Winners at the Newcasrtle Emlyn Open Competition, the League Indoor 5 a side competition, and runners up at the Llanybydder Open Competition. They also won seventeen out of the twenty league games played during the season.
Well done boys Click on picture for a larger Image
The intention next year is to build on this success by signing new players at both junior and senior levels to join the club.
All new junior players turning up to training will be given a very warm welcome. You will learn new football skills, and how to play as part of a team. More importantly you will have fun whilst playing football. You are also guaranteed to play each Saturday during the season
There nothing to loose; come and join us.
Training for the Juniors will begin at Parc Puw, Drefach Felindre, between five and six on the 3rd of September, and thereafter every Wednesday evening up until half term and then at the Astroturf Ysgol Gyfun Dyffryn Teif, Llandysul on the same day and time.
The long term aim is that the junior players of today will become accomplished senior players of tomorrow , and add to the clubs rich history.
The Senior team have begun training and played a number of pre season friendly matches. Training is at Parc Puw every Wednesday at 6pm.
Yes , the history of Bargod Rangers runs deep in Drefach Felindre and indeed in the South Ceredigion Football league being one of its earliest members.
Interested in joining ?
For the Junior Section contact Stephen Jones, Garth, Felindre, TEL 01559 371634
For the Seniors contact the Manager Joe Prentice 0777 350 3197 ( after 5pm) or the Chairman Huw Evans 01559 371651 mob 07799343527
Club history (26/03/09)
Cofion Arbennig
· CPD Bargod Rangers v Britton Ferry ac Agoriad Swyddogol Yr Ystafelloedd Newid gan Bobby Brown Cyfarwyddwr Cynorthwyol Hyfforddi Cymdeithas Peldroed Cymru a cyn chwaraewr CPD Dinas Caerdydd Awst 2ail 1975
· Fair Fawr Haf agorwyd John Toshack Mehefin 19eg 1976
· CPD Bargod Rangers v CPD Wrecsam Gorffenaf 22ain 1977
· CPD Bargod Rangers V CPD Dinas Abertawe Awst 3ydd 1977
· CPD Bargod Rangers v CPD Dinas Caerdydd Awst 10ed 1977
· Mike Smith Y Rheolwr Tim Cenedlaethol Cymru yn hyfforddi chwaraewyr Bargod Rangers ar Barc OPuw Medi 1977.
· Cymru V Iwerddon Welsh Schools Football Association ( Gem Rhyngwladol Dan 15eg) 21 Ebrill 1979
· CPD Bargod Rangers v Hendon Town Fc 11th Awst 1991 Memorable Occasions
· Bargod Rangers v Britton Ferry and the Official opening of the changing rooms by Bobby Brown Assistant Director of Coaching Football Association Of Wales and former Cardiff City centre forward August 2nd 1975
· Grand Summer Fayre opened by John Toshack June 19th 1976
· Bargod Rangers FC v Wrexam FC 22nd July 1977
· Bargod Rangers FC V Swansea City FC 3rd August 1977
· Bargod Rangers FC v Cardiff City FC 10th August 1977
· Mike Smith, then Welsh Team Manager trained Bargod Rangers FC players on Parc Puw Sept 1977
· WALES V EIRE Welsh Schools Football Association ( under 15 International) 21 April 1979
Bargod Rangers F.C. v Hendon Town F.C. 11th Aug 1991
DAETH Y FREUDDWYD YN WIR
Annwyl Ffrindiau,
Sefydlwyd Clwb Pel Droed Bargod Rangers yn y flwyddyn 1897, a buy n un o’r clybiau a fu’n gyfrifol am sefydlu Cyngrair Ceredigion yn 1921. Ers yr amser hynny, fe welwyd nifer o dimau yn mynd a dod yn y Gyngrair ond mae’r Rangers yn dal ati o hyd.
Er ir Clwb gael cryn lwyddiant o bryd I’w gilydd, yn 1957-58 y cyflawnwyd y gamp fwyaf. Yn y flwyddyn honno, fe ennillodd y Clwb dri chwpan. Dyma’r tro cyntaf yn hanes Cyngrair Ceredigion I’r fath beth ddigwydd. Eto ymhen dau dymor, cyflawnodd y “Rangers” yr un gamp.
Bu’r Clwb am lawer blwyddyn yn cynllunio ar gyfer sicrhau Ystafelloedd Newid ym Mharc Puw, ond oherwydd prinder arian roedd y cynllun yn ormod I ni. Ond ymhen amser fe wellodd ein sefyllfa ariannol, ac yn Hydref 1973, fe gyflawnwyd cais am grant I Gyngor Chwaraeon Cymru. Er mawr lawenydd, penderfynnodd y Cyngor hwnnw roi grant o 50% or holl gost, ac fe gafwyd 25% o grant gan Bwyllgor Addysg Dyfed. Derbyniwyd cyfraniadau hefyd gan fudiadau, cyn-chwaraewyr a ffrindiau, ac mae’r Clwb yn gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn.
Mae’r adeilad hwn a agorir heddiw wedi ei godi drwy gymorth ac ymdrechion called crefftwyr lleol a chynorthwywyr parod sydd wedi rhoi oriau lawer o’u hamser I’r gwaith. Mae y rhain yn rhy niferus I’w henwi, ond meant yn haeddu ein diolchgarwch cynhesaf.
Er mai’r Clwb Peldroed fydd yn defnyddio’r adeilad a’r holl gyfleusterau sy’n perthyn iddo fwyaf, rhaid cofio ei fod ar gyfer yr holl ardal, a dylai brofi o werth mawr I’r holl gymdogaeth
Yr eiddoch yn gywir,
J. GWYNFOR JONES (Cadeirydd)
*Allan o Daflen Agoriad Swyddogol o’r Ystafelloedd Newid Newydd
Sadwrn Awst 2 1975
A DREAM COME TRUE
Dear Friends,
The Bargod Rangers Football Club was founded in 1897, and was one of the founder members of the Cardiganshire League in 1921. Since that time, a number of teams have come and gone, but the Rangers still continue.
Although the Club has achieved a number of successes, none can be as notable as the Triple Trophy victories in 1957-58. This was the first time that this feat was accomplished since the leagues inauguration. A few seasons later the same feat was repeated.
The Club has for a number of years been pursuing the idea of erecting changing rooms at Parc Puw, but due to the lack of finance the project was not feasible. As time passed, the Club’s financial position improved, and in October 1973 a grant aid application was submitted to the Sports Council For Wales. To the committees joy, the Sports Council agreed to contribute 50% of the cost, and a further 25% was paid by the Dyfed Education Committee. Contributions were also received from other organisations, past players and friends, to whom the Club extends its gratitude.
This building which is being opened today could not have been built without the tremendous effort of a number of local craftsmen and willing helpers who have sacrificed hours towards the project
These persons, who are too numerous to mention, deserve special thanks.
Although the Football Club will be the main user of these facilities, it will be available for use by the whole village, and should prove an asset to the community.
Sincerely
W.M.DAVIES (Hon Secretary)
Taken from the Official Opening of the New Changing Rooms Programme Saturday August 2nd 1975
BECHGYN BARGOD RANGERS 12.01.02 – Peter Hughes Griffiths
Tîm Bargoed Rangers yn ardal Dre-fach Felindre (rhwng Castellnewydd Emlyn a Llandysul) oedd y tîm cyntaf i mi ei gefnogi ac yna chwarae iddo,
Unig uchelgais bechgyn yr ardal oedd cael gwisgo crys glas a gwyn y tîm lleol, a bu’n dîm llwyddiannus iawn ers sefydlu’r clwb ym 1921, a braint i mi oedd bod yn aelod o’r tîm arbennig hwnnw a enillodd dri chwpan Cynghrair Ceredigion a hynny deirgwaith yn y pum a’r chwedegau – record na chafodd ei thorri hyd heddiw.
Ond mae cysylltiad agos iawn rhwng llawer iawn o fechgyn y Bargod Rangers â Chlwb Pêl-droed Caerfyrddin ar hyn o bryd gan fod llawer iawn o’r cyn-chwaraewyr i’w gweld ar Barc Waun Dew yn gyson. Mae un o’r is-lywyddion, J Gwynfor Jones yn eistedd yn syth y tu ôl i’r lle mae Tomi Morgan yn sefyll yn ystod y gêm (ac yn clywed pob gair a ddaw o enau Tomi!!). Un o fois Bargod yw’r is-lywydd a’r cefnogwr brwd A T Bernard Davies, ac un arall yw Aneurin Jones o Gwmffrwd sydd newydd symud yn ôl i’r ardal ar ôl bod yn byw ac yn cefnogi Aberystwyth am flynyddoedd. Fe fu Aneurin yn chwarae yn y gôl y tu ôl i mi am sawl tynor – un o’r golwyr gorau a welodd Bargod erioed. Daw John (Dai) Davies gyda chriw Llandysul bob Sadwrn i Barc Waundew ac mae Andy (Bach) Davies a Hywel Morris yn gefnogwyr cyson hefyd.
A chwarae teg, mae cyn-chwaraewyr timau Castellnewydd a Llandysul yn flaenllaw yn ein clwb ni hefyd – Gareth O Jones ac Emlyn Schiavone, a John Evans (Cei Newydd) yn is-lywydd a Wyn Lewis Jones ac Eddie Evans (Eddie Pencae), i enw dim ond un neu ddau.
Diolch i nifer dda o fois eraill yr ardal hon sy’n cefnogi tîm y Dre mor gyson.
Yn wir, o’r bechgyn oedd yn chwarae yn fy amser i dangosodd sawl un fod ei ddoniau oddi ar y cae’n llawn cystal. Yn y timau hynny yn y chwedegau roedd Roy Evans (Roy Trewen), Prifathro presennol Coleg Prifysgol Bangor ac Ainsleigh Davies (Ains Welsh Stores), Prifathro Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Eifion Davies (Eif Bach – ac yntau dros ei chwe troedfedd) sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth Derwen, a’i frawd Dyfrig Davies, Ymgynghorydd gyda’r Awdurdod Addysg Lleol a’i fab yntau Huw Davies – y golwr gorau a welais i’n chwarae dros dîm Caerfyrddin, Roy James, cyn-brif Arolygwr Ysgolion Cymru, a Gareth Crompton, cyn-Brif Feddyg y Swyddfa Gymreig. Yn wir, gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. John Davies (John Cwrt), cyn golwr Caerdydd a Dinas Hull yw’r unig un o’r clwb a aeth yn chwaraewr proffesiynol. Ym 1975 roedd e’n chwarae dros Bargod Rangers ac ym 1976 roedd e’n chwarae i Gaerdydd.
Dyddiau da oedd y dyddiau hynny. Cewch fwy o hanes y clwb a’i chwaraewyr cyn diwedd y tymor!
EIDALWYR BARGOD RANGERS – Peter Hughes Griffiths
Wyddech chi fod tîm pêl-droed Bargod Rangers (Dre-fach, Felindre) wedi chwarae yn erbyn timau o’r Eidal a’r Almaen ‘nôl ym mhedwardegau’r ganrif ddiwethaf, ac yn fwy na hynny mai i dîm Bargod Rangers y chwaraeodd yr Eidalwyr a’r Almaenwyr cyntaf yn y wlad hon?
Mae hyn yn berffaith wir!
Cyn bod sôn am Carlo Cudicini yn Chelsea a Bergkamp yn Arsenal roedd Eidalwyr ac Almaenwyr yn chwarae yng Nghynghrair Ceredigion dros Bargod Rangers.
‘Sut yn y byd y digwyddodd hyn?’, meddech chi.
Wel, ym mhentref bychan Henllan ar lan yr afon Teifi roedd gwersyll Carcharorion Rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan ei fod yn wersyll agored roedd y carcharorion o’r Eidal a’r Almaen yn mynd allan yn ystod y dydd i weithio ar y ffermydd ac yn y pentrefi cyfagos. Roedd y carcharorion i gyd yn fechgyn ifainc heini, ac yn naturiol (yn enwedig yr Eidalwyr) yn ddwl am bêl-droed ac yn chwaraewyr medrus iawn. A chan nad oedd pêl-droed tîm Bargod Rangers ond rhyw bum can llathen o’r gwersyll, ar yr ochr hon o Afon Teifi, yn naturiol roedd cyfle i’r carcharorion chwarae yn erbyn Bargod Rangers, a thimau lleol eraill.
Ond, er cystal oedd safon pêl-droed y timau lleol fe fyddai’r Eidalwyr a’r Almaenwyr yn nhîm y gwersyll yn rhoi ‘stwffad’ dda i’r holl dimau. Mae cof plentyn gen i o weld rhai o’r gêmau hyn ambell noswaith braf o haf. Nid oedd cit pêl-droed gan y carcharorion, wrth gwrs, ac felly roedden nhw’n benthyca hen esgidiau a daps y bechgyn lleol a bron bob amser yn chwarae yn eu trowsusau a’u crysau pob dydd. Rwy’n cofio’n dda eu bod nhw’n curo pob tîm lleol yn rhacs. Roedden nhw’n chwaraewyr dawnus iawn.
O ganlyniad, fe arwyddodd tîm y Bargod Rangers nifer dda o’r carcharorion i chwarae drostyn nhw, a dyma pryd y chwaraeodd bechgyn o’r Eidal a’r Almaen dros dîm yn ein gwledydd ni am y tro cyntaf erioed. Wel, rwy’n hoffi meddwl hynny, beth bynnag! Ie, cyn i Ravanelli a Carbonni gael eu geni roedd rhai o’u cyn-deidiau wedi chwarae dros glwb bach Bargod Rangers ar lannau’r Teifi.
Mae un o aelodau gweithgar Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin yn fab i un o’r carcharorion rhyfel rheiny o’r Eidal. Fe arhosodd ei dad yn yr ardal a phriodi â merch leol. Mae’r ddau’n dal i fyw yng Nghastellnewydd Emlyn. Pa un o fechgyn ein clwb ni sydd ag enw Eidalaidd?
Bargods club honours (26/03/09)
Ennillwyr adran 1 / Division 1 winners 1924/25 1925/26 1931/32 1946/47 1954/55 1957/58 1961/62 1966/67 1972/73 1978/79 1980/81 Ennillwyr adran 2 / Division 2 winners 1983/84 1996/97 Ennillwyr cwpan yr Eilyddion adran 3 / division 3 reserves cup winners 1983/84 Ennillwyr cwpan y Gynghrair / League cup winners 1957/58 1961/62 1965/66 1970/71 Ennillwyr cwpan Ceredigion cup winners 1981/82 1983/84 1987/88 1991/92 1996/97 Ennillwyr cwpan y Bae / Bay cup winners 1957/58 1961/62 1965/66 1973/74 1975/76 1976/77 1978/79
more fitness
more ball-work
more drills
more match's
more friendlys
Win some Premier League Classic Matches on DVD
The thrills and spills of the Premier League are back and, to celebrate, we are giving away three volumes of Premier League Classic Matches on DVD!
Become a Wembley legend with the FA Umbro Fives
The FA Umbro Fives is back, offering 5-a-side teams the chance to play at Wembley and become the official champions of England. Enter your team now for just £25!